Thursday, 10 February 2011

Lle wyt ti'n byw?

 Sioned :    Wyt ti'n dal i fyw ym Mangor?      
                                                            (Do you still live in Bangor?)
Gwyn : Ydw, dw i'n dal i fyw ym Mangor -  dw i yn
            ymyl y siopau, dw i yn ymyl y  môr ac hefyd 
            dw i yn ymyl y  mynyddoedd! 
            Mae'n braf iawn byw ym Mangor.

             Ydw  - Yes I do
             dw i;n dal i fyw ym Mangor  -   I still live in Bangor
             dw i'n ymyl y siopau -    I'm close to the siops
             dw i'n ymyl y môr - I'm close to the sea
             ac hefyd  -  and also
             dw i yn ymyl y mynyddoedd  -  I'm close to the mountains
             Mae'n braf iawn byw ym Mangor - it's very nice living in Bangor


View Larger Map

Monday, 7 February 2011

Tywydd garw!

Rough weather


                     Dyma Sioned a Glyn yn trafod y tywydd.
                                               Here are Sioned and Glyn discussing the weather

Sioned : Dw i isio mynd i Gaerdydd yfory ac mae'r tywydd yn ofnadwy.

Glyn : Ma' hi'n arw iawn tydy!

Sioned : Mae hi'n wyntog iawn ac mae'n dal i fwrw glaw.

Glyn : Mae dyn y tywydd yn dweud bod llifogydd yn y canolbarth.

Sioned : Glaw a llifogydd - bydd rhaid i ni aros adra.
Glyn : O diar.

 mae'n dal i = it's still   ..... as in mae'n dal i fwrw eira = it's still snowing

                               dyn y tywydd = the weather man!
                      
canol (middle) + parth (region) = canolbarth ----> Midwales!




Listen!

Cysgodi dan yr ymbarel





Tair merch yn cerdded yn y glaw!

Mae hi'n bwrw glaw – mae dwy ferch yn cario ymbarel.
Edrychwch ar y pyllau dwr!

Thursday, 3 February 2011

Mae'n bwrw glaw!

                          This is a well-known nursery rhyme

Mae'n bwrw glaw yn sobor iawn,        It's raining dreadfully
Wel dyna beth anghynnes,              That's a chilling thing (thought)
Mochal dan yr ymbarel                     Sheltering under the umbrella
A cherdded fel brenhines.                     And walking like a queen

Children's nursery rhymes often teach essential word patterns.
Line 1
Mae'n bwrw glaw = It's raining
...yn sobor iawn = quite (very) dreadfully
    
     Of course you can change sobor and use trwm (heavy) 

                Mae'n bwrw glaw yn drwm iawn = It's raining heavily


Line 2
Wel dyna beth anghynnes  ---> ! Well that's awful
                                                                              
                           Wel dyna beth ofnadwy (ofnadwy = awful)

Line 3

Mochal dan yr ymbarel   ---> Cysgodi dan yr ymbarel (Sheltering under ......)

             Mae'r ddwy ferch yn cysgodi dan yr ymbarel

Line 4

A cherdded fel brenhines  --->  And walking like a queen!
                  by using  fel (like) we're creating a comparison - e.g.

                                Canu fel aderyn  (to sing like a bird)

                  Mae Bil yn y bath yn canu fel aderyn! 
                          (Bil in the bath sings like a bird!)

Sunday, 23 January 2011

Ionawr y pumed ar hugain - January 25th !

A special event for members of the Welsh classes has been organised for next

Tuesday evening - January 25th - diwrnod Santes Dwynwen. There will be a

sing-song in the new Berea Chapel at 7.00pm with the group Lobscows leading

the singing. These events are a great opportunity for you to meet members of

other Welsh classes and practice your Welsh surrounded by well-wishers. Give it a

go!

Wednesday, 19 January 2011

Blwyddyn newydd dda!

Tybed dach chi wedi gwneud adduned flwyddyn newydd eleni?

Dyma rai syniada' i chi!        

"Dw i isio siarad Cymraeg bob dydd."

                "Dw i isio darllan Cymraeg bob dydd."

                               "Dw i isio sgwennu Cymraeg bob dydd."

Pam lai!




Tybed = Hmm I wonder
rhai syniadau = some ideas ....         but just notice the mutation rh>r!
i chi = for you
isio = want      ..... dw i isio = I want 
siarad = to speak
darllen = to read
sgwennu = to write
bob dydd = every day
Pam = why
lai (llai) = less   ... why settle for any less!

Gwaith Cartref - Homework corrections

Dydd Mercher y deuddegfed o Ionawr
 Wednesday  the twelfth      of  January


A Lle wyt ti'n mynd?     Dw i'n mynd.    Mae o'n mynd.    Dach chi'n mynd?

   Dydy o ddim yn mynd.    Ydy hi'n mynd?    Mae o'n mynd i Gaerdydd.

   Lle dach chi'n mynd dros y gwylia?


B   Mae o'n mynd i'r gem bel droed.    Mae hi'n mynd i'r pwll nofio.

    Mae hi'n mynd i'r banc.    Mae o'n mynd i'r dafarn.  Mae hi'n mynd i'r swyddfa.

C  Dw i ddim yn mynd i'r gem.
    Dydy hi ddim yn mynd i Dredegar.
    Dydy o ddim yn mynd i'r banc.
    Dw i ddim yn mynd allan.
    Dydy hi ddim yn mynd i'r sinema. 
   
CH  Dw i'n mynd i Lanelli.
       Lle mae o'n mynd yfory?
       A chi? A chitha?
       Wyt ti'n mynd i siopa wythnos nesa'.
       Dw i ddim yn mynd am dro.
       Ydy o'n mynd i Gaerdydd?
       Dw i'n mynd i ymlacio dros y gwyliau.
       Dw i'n brysur yfory.
       Lle dach chi'n mynd yfory?
       Dach chi'n mynd i ymlacio dros y gwylia?
       Ydy hi'n mynd i'r sinema nos yfory?
       Dach chi'n mynd i'r banc yfory?
       Ydy hi'n mynd i'r gem dydd Sadwrn?