Tuesday 5 April 2011

Eavesdropping!

·        Dach chi’n aros yma rwan?    (Are you staying here now?)
                         Ydw, pam?
           Dw i isio picio draw i’r cantin am banad.      (pop over)
                               O popeth yn iawn – ewch chi         

·        Ydy Don yn dal i fyw yn Waunfawr rwan?   (Is Don still living in W. now?)
                            Nac’dy siwr – mae o wedi symud i fyw i Benygroes.
             Gobeithio bydd o’n mwynhau byw ym Mhenygroes.

·        Oes gin ti ddiddordebau?
                       O dw i wrth fy modd yn potsian yn yr ardd.     (messing about)
      Dw i’n hoffi  garddio hefyd.

·        Dw i’n mynd i Fangor yfory.
               Oes gin ti ddigon o amser i fynd i weld fy chwaer? (enough time)
Oes siwr. Lle mae hi?
               Mae hi yn ward Seiont yn Ysbyty Gwynedd.
Ydy hi’n wael iawn?                     (very poorly)
              Nac’dy wir, - mae hi’n gwella rwan.

·        Lle wyt ti’n mynd heddiw?
     Dw i’n mynd i brynu tocyn i fynd i weld Lee Evans yn y Galeri yng Nghaernarfon.
Oes gin ti ddigon o bres?           (enough money)
     Oes siwr!

·        Helo Seimon, lle wyt ti’n mynd heddiw?
     Dw i’n mynd i brynu cerdyn penblwydd i Angharad.
O da iawn ti!
     O na …….!
Be’ sy’?
     Does gin i ddim digon o bres.   (not enough money)
     Bydd Angharad yn siomedig – mi fydd hi’n flin iawn!          (disappointed - angry)
O paid a phoeni ;  rhwng cicio a brathu mae cariad yn magu
(O don't worry ;   between kicking and biting love blooms!)



       

Monday 4 April 2011

Siarad Cymraeg all the way with Frank and Frank Postlethwaite : Y Ddau Frank!

Confidence booster
Na - 'does NEB yn ein dosbarth ni yn siarad Cymraeg fel y ddau Frank!

This short clip from one of their TV appearances gives you a taste of the humour of this popular duo from the early years of S4C.

http://www.youtube.com/watch?v=oVPZrsO6Qxs

The name of the third house is Nant y Ffynnon  (The brook/stream of the well) - the renovation of this house was sponsored by Welsh Water the chairman of which was John Elved Jones who was quite famous at that time.
The verse sung at the end is the first verse of a famous poem by Ceiriog (John Ceiriog Hughes) and is a favourite of all Welsh Male Voice Choirs.

Nant y Mynydd      Mountain stream

Nant y mynydd groyw loyw         Mountain stream clear and bright
Yn ymdroelli tua'r pant,              Meandering towards the dell,
Rhwng y brwyn yn sisial ganu    Between the reeds singing softly  (in a whisper)
O na bawn i fel y nant.                O were I a mountain stream

     
Of course The Two Franks use the name of the house to begin the song so their first line is:
                               Nant y Ffynnon groyw loyw