Tuesday 5 April 2011

Eavesdropping!

·        Dach chi’n aros yma rwan?    (Are you staying here now?)
                         Ydw, pam?
           Dw i isio picio draw i’r cantin am banad.      (pop over)
                               O popeth yn iawn – ewch chi         

·        Ydy Don yn dal i fyw yn Waunfawr rwan?   (Is Don still living in W. now?)
                            Nac’dy siwr – mae o wedi symud i fyw i Benygroes.
             Gobeithio bydd o’n mwynhau byw ym Mhenygroes.

·        Oes gin ti ddiddordebau?
                       O dw i wrth fy modd yn potsian yn yr ardd.     (messing about)
      Dw i’n hoffi  garddio hefyd.

·        Dw i’n mynd i Fangor yfory.
               Oes gin ti ddigon o amser i fynd i weld fy chwaer? (enough time)
Oes siwr. Lle mae hi?
               Mae hi yn ward Seiont yn Ysbyty Gwynedd.
Ydy hi’n wael iawn?                     (very poorly)
              Nac’dy wir, - mae hi’n gwella rwan.

·        Lle wyt ti’n mynd heddiw?
     Dw i’n mynd i brynu tocyn i fynd i weld Lee Evans yn y Galeri yng Nghaernarfon.
Oes gin ti ddigon o bres?           (enough money)
     Oes siwr!

·        Helo Seimon, lle wyt ti’n mynd heddiw?
     Dw i’n mynd i brynu cerdyn penblwydd i Angharad.
O da iawn ti!
     O na …….!
Be’ sy’?
     Does gin i ddim digon o bres.   (not enough money)
     Bydd Angharad yn siomedig – mi fydd hi’n flin iawn!          (disappointed - angry)
O paid a phoeni ;  rhwng cicio a brathu mae cariad yn magu
(O don't worry ;   between kicking and biting love blooms!)



       

No comments:

Post a Comment