Wednesday 30 March 2011

Uned 7 - Atebion Gwaith Cartref

Ymarfer 1
1  Sut mae'r tywydd?     2  'Roedd hi'n ddiflas ddoe.     3  Gobeithio bydd hi'n braf yfory.

4  Dydy hi ddim yn bwrw glaw heddiw.  5  Oedd hi'n glawio ddoe yn Aberystwyth?

6  Oedd hi'n braf heddiw efo chi?

Ymarfer 2
1  Tydi hi'n oer heddiw!     2  Oedd hi'n niwlog ddoe?     3  Sut bydd y tywydd yfory?

4  Ydy hi'n bwrw glaw?     5  Sut mae'r tywydd ar y Costa del Sol?

Ymarfer 3
 1  Gobeithio bydd hi'n braf yfory.     2  Mae hi'n oer heddiw.     3  'Roedd hi'n braf ddoe.

4  Mi fydd hi'n niwlog yfory.     5  Mae'n well heddiw, tydi!     6  'Roedd hi'n waeth ddoe.

7  Mae'n bwrw cenllysg.    8  Ydy hi'n bwrw glaw?    9  Oedd hi'n wlyb ddoe? 10  Mae'n gynnes, tydi!

Ymarfer 4
1  Sut mae'r tywydd ym Mangor heddiw? Mae hi'n bwrw hen wragedd â ffyn!
2  Sut oedd y tywydd yng Nghaerdydd ddoe?     'Roedd hi'n gymylog iawn.
3  Sut bydd y tywydd draw yn Rhyl yfory?  Mi fydd hi'n wyntog iawn dw i'n siwr!   (draw = over)
4  Sut oedd y tywydd draw yn Llangefni ddoe? O 'roedd hi'n oer iawn ac yn bwrw eira!
5  Tybed sut mae hi draw yn Abertawe heddiw?  O mae hi'n haul braf ac yn gynnes iawn.
6  Tybed sut bydd y tywydd yfory draw yn Llanrheadr? Ow mi fydd hi'n stido bwrw! 

   

No comments:

Post a Comment